Dwi’n cael gymaint o hwyl! Luke 7 oed
Mae Duffryn Community Link fel un o’r pedwar partner wedi ymrwymo i gefnogi’r Project Llwybrau Lles Coetiroedd.
Fel partner ar y project Llwybrau Lles Coetiroedd, bydd Duffryn Community Link yn cynnig sesiynau chwarae awyr agored AM DDIM. Bydd y rhain yn cael eu cynnal drwy’r flwyddyn a’r nod yw annog plant a theuluoedd lleol i wneud mwy o’u hamgylchedd, a chael y cyfle a’r rhyddid i chwarae yn yr awyr agored a chreu atgofion arbennig ar yr un pryd.
Mae’r Tîm Ceidwaid Chwarae yn cynnig sesiynau chwarae mynediad agored yn ardal Duffryn ac ym Mharc Tŷ Tredegar bob wythnos. Mae’r rhain ar gyfer plant 4 – 14 oed.