Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol fel un o’r pedwar partner yn y project hwn wedi ymrwymo i gefnogi’r Project Llwybrau Lles Coetiroedd.
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Growing Space yn gweithio’n agos gyda’i gilydd i ddatblygu’r man cymunedol hwn.
Mae tair ardal benodol i’r Golchdy, gwelyau tyfu cymunedol, gardd synhwyraidd a gardd tawelwch. Caiff y rhain eu rheoli gan Growing Space fel rhan o’r project Llwybrau Lles Coetiroedd.
Bydd yr ardaloedd hyn yn creu man cymunedol i’w fwynhau gan bawb gan gynnig:
- Lle tawel i ymlacio a meddwl
- Gardd synhwyraidd â phlanhigion cyffyrddol persawrus ar gyfer y rhai â nam gweld
- Gwelyau uwch i ganiatáu i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn elwa o fod yn yr awyr agored a thyfu planhigion
- Cefnogi oedolion â phroblemau iechyd meddwl
Caiff yr ardaloedd hyn eu cefnogi gan wirfoddolwyr.