Mae Growing Space fel un o’r pedwar partner yn y project hwn wedi ymrwymo i gefnogi’r Project Llwybrau Lles Coetiroedd.
Mae Growing Space yn elusen iechyd meddwl cofrestredig a sefydlwyd yn 1992, sy’n darparu sgiliau gwaith gwirioneddol a rhwydwaith cymorth i helpu oedolion â phroblemau iechyd meddwl i gyrraedd eu golau a gwella eu safon bywyd, gan ddarparu hyfforddiant ochr yn ochr â rhaglen ddysgu seiliedig ar waith sy’n arwain at achrediad. Bydd hyn yn digwydd yn amgylchedd godidog Tŷ Tredegar.
Fel partner yn y project bydd Growing Space yn cynnig:
• Cyfleoedd Hunan-ddatblygu
• Gwirfoddoli
• Magu Hyder
• Mentora Cyfoedion
• Sgiliau Cyflogadwyedd
• Dyfarniad Garddwriaethol NOCH
Os hoffech ddysgu mwy cysylltwch â Growing Space or 01633 810718 neu Cheryl@growingspace.org.uk
Gallwch hefyd ymgeisio i fod yn rhan o’r rhaglen hon drwy:
- Hunan Atgyfeirio
- Gall aelod o’r teulu neu ofalwr gysylltu â Growing Space ar eich rhan
- Atgyfeiriad gan eich Meddyg Teulu, Gwasanaethau Iechyd Meddwl neu asiantaethau eraill