Mae Cadwch Gymru’n Daclus fel un o’r pedwar partner wedi ymrwymo i gefnogi’r Project Llwybrau Lles Coetiroedd.
Mae CGD yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i wella’r coetiroedd gan weithio tuag at newidiadau amgylcheddol hir dymor ac ymrwymiad cymunedol. Y prif nod ar gyfer y project 7 mlynedd yw annog aelodau o’r gymuned i gymryd perchnogaeth o’r coetiroedd, gwella cyflogadwyedd a gwella’r amgylchedd.
Mae hyfforddiant achrededig Lefel 1 ar gyfer 8 gwirfoddolwr a hyfforddiant NPTC ar gyfer 4 gwirfoddolwr y flwyddyn, mae’r meini prawf dewis yn berthnasol.
Rhoddir hefyd y cyfle i bobl nad ydynt eisiau ennill cymwysterau i gymryd rhan.
Fel partner yn y project bydd CGD yn
- Rhoi hyfforddiant mewn rheoli coetiroedd, rheoli offer a chynnal a chadw.
- Cyfleoedd Gwirfoddoli a Hyfforddi i wella Coetir Ystâd Duffryn.
- Cynnig hyfforddiant ymarferol ar adfywio’r coetir.
- Gweithio ag ysgolion i hyrwyddo pa mor bwysig yw’r amgylchedd naturiol.
- Cynnwys disgyblion yn y broses o blannu a gwella’r coetir
- Ymgysylltu gyda a chynnwys cymuned Duffryn mewn penderfyniadau o ran datblygu’r coetir.