Balchder Duffryn
Caiff Balchder Duffryn ei gefnogi gan y project Llwybrau Lles Coetiroedd, ei nod yw helpu gwirfoddolwyr i wneud gwelliannau amgylcheddol trwy’r grwpiau sbwriel a’r project gardd.
Chwefror oedd dechrau’r Ymgyrch Glanhau yn Duffryn, dan arweiniad Duffryn Community Link a Cadwch Gymru’n Daclus fel rhan o’r project Llwybrau Lles Coetiroedd.
Oherwydd gwaith caled y staff, gwirfoddolwyr corfforaethol a phreswylwyr cafodd 45 tunnell o sbwriel ei glirio a’i gasglu gan Gyngor Dinas Casnewydd. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb help a chymorth:
Y preswylwyr Becky, Peter a Charles a weithiodd yn ddiwyd i wella’r ardal er budd y gymuned leol. Roedd Becky a Peter wedi mwynhau eu hunain yn fawr ac maen nhw nawr wedi cofrestru fel Hyrwyddwyr Sbwriel. Os hoffech ddysgu mwy am fod yn Hyrwyddwr Sbwriel neu os ydych yn sefydliad a fyddai’n hoffi noddi hyrwyddwr sbwriel Cliciwch Yma.
Fe wnaeth Cynghorau Eco Parc Tredegar ddangos i ni i gyd nad ydych chi byth yn rhy ifanc i gefnogi eich cymuned. Gweithiodd y plant yn galed gyda brwdfrydedd ac roedden nhw’n falch o’r gwahaniaeth a wnaethant i’r ardal.
Da iawn Martin (Newport City Homes, Jo (Duffryn Community Link) Tom ac Andy (Cadwch Gymru’n Daclus).
A
Duffryn Community Link
Cadwch Gymru’n Daclus
Lloyds Bank
IPO Casnewydd
McDonalds
Newport City Homes
Cyngor Dinas Casnewydd
Grŵp Casglu Sbwriel Celtic Horizon
Mae grŵp WhatsApp wedi’i greu gan Becky ac mae gwir ymdeimlad o gymuned ymysg yr unigolion hyn sy’n benderfynol o wneud gwelliannau yn ardal Duffryn.
Os oes genych ddiddordeb mewn cymryd rhan yng Ngrŵp Sbwriel Balchder Duffryn cysylltwch â brenda@duffryncomlink.org.
Rydym hefyd yn croesawu unrhyw grwpiau corfforaethol a fyddai’n hoffi ein helpu.
Brenda Easton Cydlynydd Project Llwybrau Lles Coetiroedd