Rôl Gwirfoddolwr Chwarae
Bydd y rôl hon yn cefnogi’r Tîm Chwarae i gynnig amrywiaeth o gyfleoedd chwarae awyr agored i blant 14 oed a ieuengach.
Cynnig offer ac adnoddau priodol
Cefnogi plant i greu ardal lle gallant chwarae ynddi
Sicrhau nad yw plant yn cael niwed difrifol
Hwyluso cyfleoedd chwarae y mae’r plant yn gofyn amdanynt
Cefnogi’r tîm chwarae i gynllunio a pharatoi ar gyfer sesiynau a chlirio ar ôl sesiynau
Cefnogaeth
Caiff gwirfoddolwyr eu cefnogi gan Uwch Geidwad Chwarae’r project Llwybrau Lles Coetiroedd a Chydlynydd y Project Llwybrau Lles Coetiroedd
Treuliau
Caiff treuliau’n ymwneud â’r project eu had-dalu, rhaid i Gydlynydd y Project gytuno i awdurdodi treuliau
Hyfforddiant
- Dyfarniad Hyfforddiant Gwaith Chwarae Lefel 1
- Dyfarniad Hyfforddiant Gwaith Chwarae Lefel 2
- Dyfarniad Hyfforddiant Gwaith Chwarae Lefel 3
Dillad
- Esgidiau Addas
- Hen ddillad awyr agored (gall dillad fynd yn fudr)
- Dillad gwrth-ddŵr os yw’n bwrw
Manteision Personol
Bydd gwirfoddoli gyda Llwybrau Lles Coetiroedd yn helpu i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau. Mae gan y project amryw rolau gwirfoddoli sy’n cynnig amryw gyfleoedd.