
Starts :
Dechrau :
|
19 Dec 2020 |
Ends :
Gorffen :
|
19 Dec 2020 |
Time:
Amser:
|
3:05 pm - 5:00 pm |
Who is it for:
Ar gyfer::
|
Cyfeillgar i'r Teulu |
Sesiynau chwarae mynediad agored awyr agored am ddim i bawb o bob oed! Mae ein sesiynau bore Sadwrn yn addas i’r teulu – mae croeso i rai dan 4 oed, ond bydd angen iddynt gael eu gorchwylio gan riant / gwarcheidwad. I’r rheiny rhwng 4 a 14 oed, mae gofyn i rieni / gofalwyr lenwi ffurflen gofrestru ar ymweliad cyntaf y plentyn, yna mae’r plentyn yn gallu mynd a dod i’r sesiynau fel y mynno.
Mae ein gweithwyr chwarae cymwys yn cefnogi chwarae plant mewn mannau diogel, ond rydym yn annog cymryd risgiau pwyllog, baeddu a dysgu annibyniaeth. Rydyn ni’n dod â llawer o offer i chwarae â hwy yn y coedlannau – ond mae chwarae’n digwydd ar sawl ffurf ac mae hyn yn aml yn golygu baeddu – rydyn ni’n argymell hen ddillad ac esgidiau glaw!
Cwrdd yn y coedlannau bach yn y parc, y tu ôl i’r ardal chwarae yn Nhŷ Tredegar. 11am – 12.55pm, bob wythnos.
Cofiwch, rydyn ni’n cwrdd gydol y flwyddyn, ym mhob tywydd bron a bod! Os bydd angen i ni ganslo sesiwn oherwydd gwyntoedd cryf neu stormydd byddwn yn ceisio rhoi gwybod i bobl ar y cyfryngau cymdeithasol.
Tŷ Tredegar
Coedcernyw, Casnewydd
NP10 8YW