
Starts :
Dechrau :
|
6 Jul 2023 |
Ends :
Gorffen :
|
6 Jul 2023 |
Time:
Amser:
|
3:05 pm - 5:00 pm |
Who is it for:
Ar gyfer::
|
Plant 4 - 14 oed |
Sesiynau chwarae mynediad agored awyr agored am ddim i blant rhwng 4 a 14 oed. Darpariaeth y tu allan i’r ysgol – 3.05 – 5.00pm bob dydd Iau. Mae gofyn i rieni / gofalwyr lenwi ffurflen gofrestru ar ymweliad cyntaf y plentyn, yna mae’r plentyn yn gallu mynd a dod i’r sesiynau fel y mynno.
Mae ein gweithwyr chwarae cymwys yn cefnogi chwarae plant mewn mannau diogel, ond rydym yn annog cymryd risgiau pwyllog, baeddu a dysgu annibyniaeth. Rydyn ni’n dod â llawer o offer i chwarae â hwy yn y coedlannau – ond mae chwarae’n digwydd ar sawl ffurf ac mae hyn yn aml yn golygu baeddu – rydyn ni’n argymell hen ddillad ac esgidiau glaw! Mae croeso i rai dan 4 oed fynychu, os cânt eu goruchwylio gan oedolyn. Cwrdd ar y cae y tu ôl i Sandpiper Way / wrth y coedlannau.
Cofiwch, rydyn ni’n cwrdd gydol y flwyddyn, ym mhob tywydd bron a bod! Os bydd angen i ni ganslo sesiwn oherwydd gwyntoedd cryf neu stormydd byddwn yn ceisio rhoi gwybod i bobl ar y cyfryngau cymdeithasol.
Rabbit Hill Woods
Duffryn, Newport
NP10 8WP