Cwcis
Yn syml, technoleg i gofio rhywbeth amdanoch yw cwci.
Mae dros 90% o wefannau yn defnyddio cwcis. Nid yw cwcis yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch ac ni ellir eu defnyddio i adnabod defnyddiwr unigol.
Nid ydynt o reidrwydd yn bethau da na drwg, ond mae’n werth deall yr hyn y gallwch ei wneud amdanynt.
Heb gwcis, mae gwefan wedi’i gyfyngu o ran ei weithrediad. Ni all eich mewngofnodi’n awtomatig, oherwydd mae’n anghofio pwy ydych chi. Ni all eich galluogi i brynu unrhyw beth, oherwydd mae’n anghofio beth rydych yn ei brynu. Ar nodyn cadarnhaol, mae hefyd yn golygu na all eich olrhain.
Mae’r mwyafrif o borwyr y we yn derbyn cwcis yn awtomatig. Fodd bynnag, os ydych yn anghyfforddus gyda chwcis, efallai y gallwch osod eich porrwr gwe i wrthod pob cwci neu roi gwybod i chi pan fydd cwci yn cael ei anfon i’ch cyfrifiadur – yna gallwch ddewis p’un ai i dderbyn y cwci, neu beidio. Dylai’r adran Help ar eich porwr ddweud sut wrthych.
Sylwch: Drwy wrthod ein cwcis neu analluogi cwcis yn y dyfodol efallai na fyddwch yn gallu defnyddio rhai rhannau neu nodweddion o’n gwefan.
Byddai’n well troi cwcis trydydd parti i ffwrdd, a fydd yn atal y mwyafrif o wefannau rhag rhannu gwybodaeth amdanoch. Mae rhai porwyr – fel Safari, yn gwneud hyn yn awtomatig.
CYFARWYDDIADAU AR SUT I ANALLUOGI CWCIS
Cwcis a osodir gan wefannau Trydydd Parti
Mae rhai gwefannau yn defnyddio cwcis i gofio beth rydych yn ei wneud ar eu gwefan, ac i dargedu hysbysebion atoch. Mae rhai o’r gwefannau hynny’n rhannu eu cwcis, fel bod hysbysebion ar un wefan yn gwybod beth wnaethoch ei hoffi ar un arall.
I gefnogi ein gwefannau, rydyn ni weithiau’n defnyddio lluniau a fideos o wefannau fel YouTube a Flickr. O ganlyniad, pan fyddwch yn ymweld â thudalen â chynnwys o YouTube neu Flickr er enghraifft, efallai y byddwch yn cael cwcis o’r gwefannau hyn. Nid yw Duffryn Community Link yn rheoli gweithrediad a gweithgarwch y cwcis hyn. Dylech wirio’r wefan trydydd parti berthnasol i gael rhagor o wybodaeth am y rhain.
Sylwch: Os byddwch yn penderfynu peidio ag analluogi cwcis rydych yn cytuno i ni eu defnyddio ar ein gwefannau.
CYFARWYDDIADAU AR SUT I ANALLUOGI CWCIS TRYDYDD PARTI
Google Analytics
Mae Duffryn Community Link yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddi’r we a ddarperir gan Google, Inc. Mae Google Analytics yn gosod cwci er mwyn gwerthuso eich defnydd o’n gwefan a chasglu adroddiadau i ni ar weithgarwch ar ein gwefan.
Mae Google yn cadw’r wybdodaeth a gesglir gan y cwci ar weinyddion yn America. Gall Google hefyd roi’r wybodaeth hon i drydydd partïon lle mae hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith, neu lle mae trydydd partïon o’r fath yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google. Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP gydag unrhyw ddata arall a gedwir gan Google. Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cydsynio i Google brosesu data amdanoch yn y modd ac at y diben a nodir uchod.
SUT I WRTHOD NEU DDILEU’R CWCI HWN